Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
12 Hydref 2016
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(60 munud)
NDM(6089)
Lee Waters (Llanelli)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Huw Irranca–Davies (Ogwr)
John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod amryfal fanteision iechyd a lles gweithgaredddau corfforol.
2. Yn nodi mai dim ond 35 y cant o blant Cymru sy'n cael yr awr o weithgareddau corfforol a gaiff ei argymell sydd ei angen arnynt bob dydd.
3. Yn cydnabod potensial Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i godi lefelau gweithgareddau corfforol ymysg pob grŵp oedran.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n llawn â chymunedau i ganfod y llwybrau newydd a fyddai'n cysylltu cyrchfannau lleol ac a fyddai fwyaf tebygol o gael defnydd da.
'Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013'
Cefnogir gan
David Melding (Canol De Cymru)
Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiadau bod British Airways yn ystyried torri 66 o swyddi yn ei gyfleuster cynnal a chadw ym Maes Awyr Caerdydd?
(60 munud)
NDM6115
Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn):
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod y rhagfarn tuag at y rhai sydd â phroblemau
iechyd meddwl, neu sydd wedi cael problemau iechyd meddwl, yn
parhau, a'r effaith a gaiff hyn ar gyflogaeth, incwm a llesiant y
rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl.
2. Yn credu y dylai addysg yn ymwneud ag iechyd meddwl ddechrau pan fo disgyblion yn ifanc ac y dylai ysgolion gael yr adnoddau i hyrwyddo llesiant ymysg pob disgybl.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) parhau i fynd i'r afael â rhagfarn a chwilio am bwerau dros gyfraith cyflogaeth er mwyn gallu cryfhau ffyrdd o ddiogelu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn y gwaith; a
b) sicrhau bod yr holl wasanaethau cyhoeddus yn archwilio ffyrdd y gellir gwella eu harferion eu hunain i gyfrannu at well iechyd meddwl.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) rhoi terfyn ar weithio digyswllt wrth ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl; a
b) gweithio ar draws y sector cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl, gan hyrwyddo technegau ataliol, fel therapïau siarad ac ymwybyddiaeth ofalgar.
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Yn is-bwynt 3a, dileu 'a chwilio am bwerau dros gyfraith cyflogaeth er mwyn gallu cryfhau ffyrdd o ddiogelu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn y gwaith' a rhoi yn ei le:
'yn y gweithle a gweithio gyda chyflogwyr i sicrhau cefnogaeth i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn y gwaith.'
(60 munud)
NDM6114 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod bod angen deddfwriaeth benodol ar gyfer awtistiaeth, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno bil awtistiaeth (Cymru) yn ystod tymor y Pumed Cynulliad.
(30 munud)
NDM6116
Joyce Watson (Canolbarth a
Gorllewin
Cymru)
Ymuno â'r Achos: Menywod, Cymru a'r Gymanwlad - rôl
Menywod Seneddol y Gymanwlad yn y cyfnod ar ôl gadael yr
UE
'Commonwealth Women
Parliamentarians' (Saesneg yn
unig)
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 18 Hydref 2016